Creu Cymru Creu
Cymru

 Asiantaeth Teithio i Gymru

 Touring Agency for Wales

F/T: 01970 639444
E: post@creucymru.co.uk

Cronfa Loteri

Access keys

Amdanon ni

Asiantaeth deithio newydd yw Creu Cymru a sefydlwyd o ganlyniad i fenter canolfannau amrywiol ledled Cymru, ac amlygir yr amrywiaeth hwnnw yn y canolfannau sydd wedi ymaelodi â ni.

Amcan yr asiantaeth yw datblygu'r rhychwant o waith teithio sydd ar gael, cefnogi ymgyrchoedd i ddatblygu cynulleidfaoedd, a chreu 'siop un stop' i'n haelodau sy'n chwilio am gynnyrch teithiol addas.

Aims

Sefydlwyd Creu Cymru i wasanaethu'r canolfannau sydd wedi ymaelodi â ni, a bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei gynllunio mewn partneriaeth â chlystyrau penodol o ganolfannau er mwyn ateb eu gofynion unigol.

Drwy weithredu yn y modd hwn, bwriad Creu Cymru yw datblygu darpariaeth, hygyrchedd, cyflwyniad a bywiogrwydd y celfyddydau perfformio yng Nghymru.

Information

Yn ogystal â hyn bwriedir hybu twf ymhlith y rhai sy'n mynychu'r celfyddydau a darparu profiadau positif o'r celfyddydau i gynulleidfaoedd newydd.

Bydd Creu Cymru hefyd yn gweithio gyda'r canolfannau i hyrwyddo marchnata perfformiadau teithiol o ansawdd uchel.

Cefnogwyd datblygiad yr Asiantaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy grant gan y cynllun loteri. Sefydlwyd Creu Cymru yn Chwefror 2001 ac fe'i lansiwyd yng nghynhadledd 'Ar y Ffordd' yn Aberystwyth yn mis Ebrill.

Bwriad Creu Cymru yw cydlynu teithiau'r celfyddydau perfformio er mwyn darparu buddiannau rhaglennu ac ariannol posibl i'r canolfannau. Golyga hyn y gall cwmnïau ac artistiaid reoli eu teithiau yn haws.

Drwy annog teithiau i Gymru, yn ogystal â hyrwyddo teithiau gan artistiaid a chwmnïau wedi'w lleoli yng Nghymru, gellir rhagweld y bydd datblygiad sylweddol yn amrywiaeth ac ansawdd y gwaith a fydd ar gael i ganolfannau a chynulleidfaoedd.

Yn 2003/4 bydd Creu Cymru yn canolbwyntio ar deithiau:

  • Drama yn Saesneg ac yn y Gymraeg
  • Cerddoriaeth y byd a theatr
  • Cerddoriaeth draddodiadol
  • yn enwedig dulliau traddodiadol Cymreig

Fodd bynnag, drwy greu 'siop un stop' ar gyfer y canolfannau sydd wedi ymaelodi â ni, bydd gan Creu Cymru fanylion ynglyn â'r holl artistiaid a'r cwmnïau sy'n dymuno i'w cynhyrchiadau teithio ymweld â'r canolfannau.

Cynigir gwasanaeth i gynhyrchiadau teithiol ar dair lefel:

Y mwyafrif o gynhyrchiadau teithiol neu gwmnïau sy'n dymuno teithio yng Nghymru: bydd Creu Cymru yn rhestru gwybodaeth hanfodol ynglyn â'r cynnyrch a'i argaeledd ar y wefan

Cwmnïau rhaglennu creiddiol: cymorth pro-actif gan Creu Cymru i gydlynu'r teithiau

Mentrau penodol: prosiectau gyda brîff neilltuol a reolir gan Creu Cymru mewn partneriaeth â grwpiau penodol o aelodau

Gwahoddir artistiaid a chwmnïau sy'n dymuno teithio i ganolfannau Creu Cymru yng Nghymru i gysylltu ag Yvonne yn swyddfa Creu Cymru.

Marchnata

Mae gan Creu Cymru adran farchnata fechan a fydd yn cyfannu ac yn cefnogi staff marchnata y canolfannau sydd wedi ymaelodi â ni. Bydd yr adran yn cydweithio â'r canolfannau ac yn darparu cefnogaeth marchnata ymbarél neu drwy Gymru.

Pan fo cynhyrchiad yn teithio i sawl canolfan yng Nghymru, gall fod o fantais i adran farchnata y cwmni teithiol gysylltu ag adran farchnata Creu Cymru i greu strategaeth farchnata i'r daith neu i ddarparu cyfarwyddyd yn ymwneud â'r perfformiad.

Manylion cyswllt

Cyfarwyddwr: Richard Hogger richard@creucymru.co.uk
Rheolydd Marchnata: Iain Kempton iain@creucymru.co.uk
Gweinyddiaeth: Yvonne O'Donovan yvonne@creucymru.co.uk
Rheolydd Teithio: Berith Hjelmgaard berith@creucymru.co.uk
ffôn: 01970 639444
ffacs: 01970 639452.

About us

Creu Cymru, the Touring Agency for Wales, was established in April 2001 as a result of the initiative of a broad range of venues throughout Wales.

The present membership of 38 reflects that diversity ranging from large theatres and arts centres to smaller venues with only one or two dedicated staff.

Aims

Through its activities, Creu Cymru aims to:

  • develop the provision, accessibility, presentation and vibrancy of the performing arts in Wales
  • encourage significant growth in arts attenders
  • provide positive experiences of the arts to both present and new audiences.

Creu Cymru was established to serve its member venues and will primarily do this through work in four areas:

Information:

The Creu Cymru website will act as a central information source for all available touring product. Information regarding productions and availability of all companies and artists seeking to tour to the Creu Cymru venues in Wales will be displayed.

These are shown in the Touring Companies section. Member venues wishing to book these tours will negotiate directly with the producer - Creu Cymru will not generally offer further assistance in promoting these productions or in obtaining bookings.

Core programme touring:

In response to the touring and audience development needs of its members, Creu Cymru will actively promote specific tours of drama, dance and music by producing companies.

The Agency will work with the venues and companies in co-coordinating the touring and promotion of the work being offered.

In 2003/4 Creu Cymru will be focusing upon touring:

  • drama in both the English and Welsh language
  • world music and theatre
  • traditional music - particularly Welsh traditional styles

Specific Projects:

In partnership with particular groups of members Creu Cymru will initiate projects that meet their specific needs in areas of programme and audience development which are not generally met by existing available product.

Audience Development and Marketing:

Creu Cymru has a small marketing department that aims to complement and support the work of the member venues own marketing staff.

It will work closely with them on specific tours and provide umbrella or Wales wide national marketing support.

With certain tours and specific projects Creu Cymru will liaise with the marketing department of the touring company and venues to formulate a marketing strategy for the tour.

It is anticipated that by encouraging touring into Wales, as well as facilitating tours by Welsh based artists and companies, there will be significant development of the diversity and quality of the work available to venues and audiences.

Creu Cymru is also in the position to act as advocate on behalf of its member venues in areas regarding funding and provision of touring, support for new initiatives and the development of good working partnerships between venues and touring companies.

Artists and companies seeking to tour to the Creu Cymru venues within Wales are invited, to contact Yvonne in the Creu Cymru office.

Contact details

Director: Richard Hogger richard@creucymru.co.uk
Marketing Manager: Iain Kempton iain@creucymru.co.uk
Administration: Yvonne O'Donovan yvonne@creucymru.co.uk
Touring Manager: Berith Hjelmgaard berith@creucymru.co.uk
tel: 01970 639444
fax: 01970 639452

orange rule
blue rule